Hafan

Atgofion Hen Ddysgwr

Rhwng Ffrindiau, rhif 9, Gwanwyn 2002

Nes i ddechrau dysgu Cymraeg yn 1969.

Wedi cyfarfod Gareth Howell yn Llundain fe wnaeth fy ngwahod i fynd gydag ef i'r Eisteddfod Genedlaethol yn y Fflint. "Eisteddfod," medde fi "beth yn union yw hwnnw?" "Dere i weld!" mynte fe.

Ar y pryd, m'ond deg gair Cymraeg o ni'n gwybod, rhyw stiward ar y Holyhead Mail blynnyddoedd yn ol ddysgodd y rheini i mi. Ond fe wnaeth yr Eisteddfod honno greu diddordeb ynndo i am yr iaith, y diwilliant a phobeth Cymraeg. A chofiwch, hwnnw oedd blwyddyn yr Arwisgiad, Carlo a Chreoso Chwedeg Nain …

Ar ol yr Eisteddfod roeddwn yn aros ar fferm teulu'r Blackwells yn Nregaron am bythefnos a nes i gyfarfod a Ned Thomas yn Llwynpiod. Roedd Ned yn dechrau cyhoeddu'r cylchgrawn Planet ar y pryd. Bu recordiau'r bbc o gymorth mawr i mi ddysgu ymhellach ac yn hwyrach cyhoeddwyd y llyfryn bendigedig Welsh is Fun.

Bum yn ddigon ffodus y fynd eto i'r Rhuthun ym 1973, lle enillodd Alan Llwyd y goron a'r gadair yn yr un Wyl, y tro cyntaf i hyn ddigwydd ers 1915.

Roedd grwp o Wyddelod o Conradh na Gaeilge yn bresennol a pabell arbennig gan Yr Oireachtas - Gwyl Genedlaethol Y Gwyddelod.

Bum yn bresennol yn Aberteifi yn 1976, wrth i'r goron a'r gadair unwaith eto gan ei hennill gan yr un dyn, Alan Llwyd a phrofi'r bwrlwm daeth yn sgil digymhwyso Dic Jones.

O'r diwedd, des yn ol ym 2001 i Ddinbych, ar ol bwlch o 25 mlynedd. Mae'r Wyl bellach yn fwy cenedlaethol ac yn llai brenhinol.

Am y tro cynta erioed, merch enillodd y gadair - Denbigedig yn wir.

Cododd y dadl iaith ei phen eleni eto ond gyda Cynulliad Cenedlaethol wedi eu greu y gobaith yw y bydd modd mynd i'r afael a'r sefyllfa.

Hafan